Dwi’n fam i 2 grwt o dan 3 mlwydd oed. Ar ôl 15 mlynedd yn y ddinas fawr, symudon ni’r teulu i Sir Gâr nol yn fis Medi.

Dwi hefyd wrth fy modd yn y gegin. Pobi yw fy hoff beth i wneud gyda fy amser sbâr (pa amser sbâr?!) ac yn mwynhau rhannu fy melysion gyda theulu a ffrindiau. Dwi wedi gwneud eitemau gyda Dudley: cystadleuydd ar Chez Dudley; un rhaglen fel cogydd amaturaidd ar Dudley ar Blât; ac yn olaf ces i’r slot pobi ar ei gyfres ganlynol.

Mae’r blog ‘ma yn gyfle i fi rannu fy syniadau fel Mami a chogydd a sut mae’r ddau yn cyfuno yn ddyddiol, yn canolbwyntio yn enwedig o’m brofiad o ddiddyfnu fy mab iau yn dilyn ‘baby-led weaning’ – does dim clem ‘da fi beth yw’r cyfieithiad am hwn felly dwi’n defnyddio ‘blw’.

Ar ben hynny, dwi’n gweithio ym maes addysg gyda diddordeb arbennig mewn ieithoedd tramor. Dwi wedi dysgu Cymraeg (felly esgusoda’r gwallau) a gwastad yn ceisio gwella fy Ffrangeg ac Eidaleg. Dwi’n teimlo bod fy mhrofiadau tramor a fy niddordeb mewn diwylliannau eraill wedi effeithio fy agwedd tuag at fwyd a beth dwi’n rhoi i fy mhlant i fwyta.

IMG_1470