Cynhwysion
- 1 wnionyn
- 3 llwy fwrdd olew olewydd
- 2 ewin garlleg
- Pinsiad herbes de provence
- 2 tun tomato
- Tasgiad gwin coch
- 1 llwy fwrdd finegr gwin coch
Offer arbennig
- Cymysgwr stic
Dull
- Torrwch y wnionyn yn fan a’i ffrio yn yr olew olewydd. Ychwanegwch y perlysiau a’r garlleg wedi ei falu. Pan mae’n feddal, ychwanegwch y tomato a’r gwin.
- Gadewch i ffrwtian nes bod e wedi lleihau tipyn a thewychu.
- Cymerwch oddi wrth y gwres a’i gymysgwch gyda’r cymysgwr stic nes bod yn llyfn.
- Ychwanegwch y finegr a nawr mae’n barod i fwynhau.
Hyfryd gyda pasta neu fel saws ar pizza.