Byrbrydau

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn teimlo’n eithaf euog am ansawdd y byrbrydau mae’r bechgyn wedi bod yn cael. Mae gwastad bag o rice cakes yn fy mag i, bocs bach o resins, weithiau bag o ‘greision’ (y rhai Organix ‘Goodies’) ac weithiau bag bach o bread sticks ond dim byd ysbrydoledig o gwbl.

Pan oedd dim ond un plentyn gen i, roedd e’n cael pethau llawer mwy creadigol. Roeddwn i’n pobi pethau fel ‘cheese straws’, roeddwn i’n paratoi salad o ffrwythau yn cynnwys ffrwythau eithaf exotic ac roedd paratoi snacs yn rhan bwysig iawn o baratoi i adael y tŷ.

Diffyg amser yw’r broblem nawr dwi’n meddwl ond dyw hynny ddim yn esgus – mae’n amser i mi wella’r sefyllfa!!

Dros y penwythnos ‘on i’n darllen grŵp ar Facebook ‘Friendly First Foods” (sy’n llawn ryseitiau a syniadau da iawn gyda llaw) a des i o hyd llun. Menyw oedd wedi paratoi bocs byrbryd er gyfer ei phlentyn. Wel, wow wî, roedd y bocs yn anhygoel, a dydw i ddim yn sôn am y cynnwys, na, y bocs ei hunan – Yumbox. Es i ati i ffeindio un o’r bocsys ‘ma yn syth. Roedd yn ddrud, ond roedd fy ngŵr i ar Stag tramor felly ‘on i’n teimlo fel ‘on i’n haeddu treat bach hefyd!

Mae fy mocs wedi cyrraedd heddiw a dwi wedi cyffro yn fawr am y syniad o newid y ffordd dwi’n rhoi byrbrydau i’r bechgyn. Dwi’n mynd i fod yn fwy trefnus ac mae’r adrannau gwahanol yn mynd i helpu fi rhoi amrywiaeth o bethau.

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s