Byrbrydau

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn teimlo’n eithaf euog am ansawdd y byrbrydau mae’r bechgyn wedi bod yn cael. Mae gwastad bag o rice cakes yn fy mag i, bocs bach o resins, weithiau bag o ‘greision’ (y rhai Organix ‘Goodies’) ac weithiau bag bach o bread sticks ond dim byd ysbrydoledig o gwbl.

Pan oedd dim ond un plentyn gen i, roedd e’n cael pethau llawer mwy creadigol. Roeddwn i’n pobi pethau fel ‘cheese straws’, roeddwn i’n paratoi salad o ffrwythau yn cynnwys ffrwythau eithaf exotic ac roedd paratoi snacs yn rhan bwysig iawn o baratoi i adael y tŷ.

Diffyg amser yw’r broblem nawr dwi’n meddwl ond dyw hynny ddim yn esgus – mae’n amser i mi wella’r sefyllfa!!

Dros y penwythnos ‘on i’n darllen grŵp ar Facebook ‘Friendly First Foods” (sy’n llawn ryseitiau a syniadau da iawn gyda llaw) a des i o hyd llun. Menyw oedd wedi paratoi bocs byrbryd er gyfer ei phlentyn. Wel, wow wî, roedd y bocs yn anhygoel, a dydw i ddim yn sôn am y cynnwys, na, y bocs ei hunan – Yumbox. Es i ati i ffeindio un o’r bocsys ‘ma yn syth. Roedd yn ddrud, ond roedd fy ngŵr i ar Stag tramor felly ‘on i’n teimlo fel ‘on i’n haeddu treat bach hefyd!

Mae fy mocs wedi cyrraedd heddiw a dwi wedi cyffro yn fawr am y syniad o newid y ffordd dwi’n rhoi byrbrydau i’r bechgyn. Dwi’n mynd i fod yn fwy trefnus ac mae’r adrannau gwahanol yn mynd i helpu fi rhoi amrywiaeth o bethau.

 

Cyn dechrau BLW

Pan wnes i BLW gyda fy mab hynaf, cadwais ddyddiadur bwyd am 6 mis. Pan des i i’r diwedd fy llyfr cyntaf treuliais bach o amser yn ymbwyllo dros ein profiadau am y 3 mis cyntaf. Dyma beth ddysgais i:

✓ Mae BLW yn llawer o hwyl

✗ Dyw prydau mewn hast byth yn llwyddiannus…

✗ Dyw prydau pan mae’r plentyn wedi blino byth yn llwyddiannus chwaith

✓ Dyw BLW ddim mor flêr nag oedd pobl wedi trio gwneud fi credu cyn dechrau…

✓ OND wrth roi ‘oil cloth’ ar y llawr ac ar y bwrdd, mae glanhau yn llawer haws

✓ Mae Y gadair uchel gan IKEA yn wych, yn uchder perffaith i’r plentyn bwyta wrth y bwrdd ac yn rhwydd iawn i lanhau

!!! Mae’n gallu bod yn anodd cael pryd y nos yn barod erbyn amser rhesymol

!!! Dwi wastad yn anghofio ystyried amser i’r bwyd i oeri

✓ Mae’n hawdd iawn i addasu ein prydau ni i fod yn addas i’r plentyn

✓ Dwi nawr yn llawer mwy gofalus a ffyslyd am beth rydym ni’n bwyta, yn arbennig gyda chig

!!! Ffedogau gyda llewys yn hollbwysig

✓ Mae’n hyfryd i gael yr amser ‘da gilydd o gwmpas y bwrdd – rydym ni’n clebran, cynllunio’r dydd, canu, gwrando ar y radio ayb

!!! Mae’n rhy hawdd i mi fwyta beth sydd ar ôl – mae’n rhaid i mi stopio gwneud hynny!!!

IMG_0285
Ein sefyllfa ni adref