Rysáit: Guacamole

IMG_0407Cynhwysion

  • 1 afocado mawr
  • Hanner wnionyn
  • Hanner chilli
  • Hanner llwy de cumin
  • 1 leim

 

Offer arbennig

  • Cymysgwr bach

 

Dull

  1. Tynnwch yr afocado mas o’i groen a’i stwnshio mewn bowlen.
  2. Blendiwch y wnionyn, chilli, cumin a sudd hanner leim yn y cymysgwr nes bod yn creu pâst.
  3. Cymysgwch y pâst mewn gyda’r afocado.
  4. Gwasgwch weddill y sudd leim dros y guacamole er mwyn cadw fe’n ffres.

 

Hyfryd gyda chilli, fajitas neu fel dip.

Rysáit: Pesto

IMG_0148Cynhwysion

  • 45g-50g dail basil (wedi golchi)
  • 2 ewin garlleg bach (neu 1 mawr)
  • 25g cnau pinwydd (wedi tostio a malu)
  • 10g parmesan (wedi gratio)
  • 3 llwy de olew olewydd
  • sudd ¼ lemwn

 

Offer arbennig

  • Pestl a mortar

 

Dull

  1. Torrwch y dail basil a’u rhoi yn y mortar. Bwrwch gyda’r pestl.
  2. Ychwanegwch y garlleg a pharhau i’w falu nes bod e wedi cymysgu’n dda.
  3. Ychwanegwch y cnau pinwydd, parmesan a’r olew olewydd a’u malu eto nes bod popeth wedi cymysgu.
  4. I orffen, ychwanegwch y sudd lemwn a chymysgwch gyda’r pestl.

Yn gwneud tua 115g.

Mae’r rysáit hon yn cynnwys llawer llai o halen na pesto o’r siop. Yr unig halen yw’r hyn sydd yn y parmesan sef 1.6g/100g, felly dim ond 0.16g/100g o halen sydd yn y rysáit hon.

Rysáit: Saws Tomato Clasurol

IMG_0281

Cynhwysion

  • 1 wnionyn
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 ewin garlleg
  • Pinsiad herbes de provence
  • 2 tun tomato
  • Tasgiad gwin coch
  • 1 llwy fwrdd finegr gwin coch

 

Offer arbennig

  • Cymysgwr stic

 

Dull

  1. Torrwch y wnionyn yn fan a’i ffrio yn yr olew olewydd. Ychwanegwch y perlysiau a’r garlleg wedi ei falu. Pan mae’n feddal, ychwanegwch y tomato a’r gwin.
  2. Gadewch i ffrwtian nes bod e wedi lleihau tipyn a thewychu.
  3. Cymerwch oddi wrth y gwres a’i gymysgwch gyda’r cymysgwr stic nes bod yn llyfn.
  4. Ychwanegwch y finegr a nawr mae’n barod i fwynhau.

 

Hyfryd gyda pasta neu fel saws ar pizza.