Cynhwysion
- 1 afocado mawr
- Hanner wnionyn
- Hanner chilli
- Hanner llwy de cumin
- 1 leim
Offer arbennig
- Cymysgwr bach
Dull
- Tynnwch yr afocado mas o’i groen a’i stwnshio mewn bowlen.
- Blendiwch y wnionyn, chilli, cumin a sudd hanner leim yn y cymysgwr nes bod yn creu pâst.
- Cymysgwch y pâst mewn gyda’r afocado.
- Gwasgwch weddill y sudd leim dros y guacamole er mwyn cadw fe’n ffres.
Hyfryd gyda chilli, fajitas neu fel dip.