Blog

Byrbrydau

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn teimlo’n eithaf euog am ansawdd y byrbrydau mae’r bechgyn wedi bod yn cael. Mae gwastad bag o rice cakes yn fy mag i, bocs bach o resins, weithiau bag o ‘greision’ (y rhai Organix ‘Goodies’) ac weithiau bag bach o bread sticks ond dim byd ysbrydoledig o gwbl.

Pan oedd dim ond un plentyn gen i, roedd e’n cael pethau llawer mwy creadigol. Roeddwn i’n pobi pethau fel ‘cheese straws’, roeddwn i’n paratoi salad o ffrwythau yn cynnwys ffrwythau eithaf exotic ac roedd paratoi snacs yn rhan bwysig iawn o baratoi i adael y tŷ.

Diffyg amser yw’r broblem nawr dwi’n meddwl ond dyw hynny ddim yn esgus – mae’n amser i mi wella’r sefyllfa!!

Dros y penwythnos ‘on i’n darllen grŵp ar Facebook ‘Friendly First Foods” (sy’n llawn ryseitiau a syniadau da iawn gyda llaw) a des i o hyd llun. Menyw oedd wedi paratoi bocs byrbryd er gyfer ei phlentyn. Wel, wow wî, roedd y bocs yn anhygoel, a dydw i ddim yn sôn am y cynnwys, na, y bocs ei hunan – Yumbox. Es i ati i ffeindio un o’r bocsys ‘ma yn syth. Roedd yn ddrud, ond roedd fy ngŵr i ar Stag tramor felly ‘on i’n teimlo fel ‘on i’n haeddu treat bach hefyd!

Mae fy mocs wedi cyrraedd heddiw a dwi wedi cyffro yn fawr am y syniad o newid y ffordd dwi’n rhoi byrbrydau i’r bechgyn. Dwi’n mynd i fod yn fwy trefnus ac mae’r adrannau gwahanol yn mynd i helpu fi rhoi amrywiaeth o bethau.

 

Cymorth Cyntaf ar gyfer Babi

Dwi wastad wedi meddwl bod yn bwysig iawn i baratoi am bopeth – chi eisiau bod yn hyderus rhag ofn bod bach o fwyd yn mynd yn sownd yn y gwddwg. Dyma glipiau gan St John’s Ambulance gyda chyngor pwysig iawn:

St John Ambulance The Chokeables advert: save a choking baby

How to Treat a Choking Baby – First Aid Training – St John Ambulance

Choking Adults and Children – First Aid Training – St John Ambulance

Fy hoff lyfrau ‘BLW’

Dyma rhestr o lyfrau gwybodaeth a llyfrau coginio dwi wedi ffeindio yn ddefnyddiol cyn ddechrau ac hefyd yn ystod blw.

Y brif llyfr i ddarllen cyn ddechrau a chadw wrth law trwy’r amser

Baby-led Weaning
Gill Rapely & Tracey Murkett
ISBN 978-0-0919-2380-8

https://www.waterstones.com/book/baby-led-weaning/gill-rapley/tracey-murkett/9780091923808

Fy hoff lyfrau coginio

River Cottage
Nikki Duffy
ISBN 978-1-4088-0756-9

http://www.amazon.co.uk/River-Cottage-Baby-Toddler-Cookbook/dp/1408807564/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1459779974&sr=8-1&keywords=river+cottage+baby+and+toddler

Dwi’n caru’r llyfr hwn. Dwi’n defnyddio fe o leiaf unwaith yr wythnos a mae rhai o’r rysietiau yn bendant rhai o’r ffefrynnau fy mlant. Yn enwedig yn caru’r polpette courgette, crymbl a’r bara.

 

Ella’s Kitchen The First Foods Book (the purple one)
ISBN 978-0-600-62925-2

http://www.amazon.co.uk/Ellas-Kitchen-First-Foods-Purple/dp/0600629252/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1459780014&sr=8-1&keywords=ella%27s+kitchen+the+purple

Dwi wedi cael llawer o syniadau mas o’r llyfr hwn. Dwi’n ffeindio bod y ryseitiau yn hawdd iawn i addasu. Ni gyd yn hoff iawn o’r paella (yn cynnwys y babi yn 8 mis).

 

Top Bananas! (The best ever family recipes from Mumsnet)
ISBN 978-1-4088-5049-7

http://www.amazon.co.uk/Top-Bananas-Family-Recipes-Mumsnet/dp/1408850494/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1459780594&sr=8-1&keywords=top+bananas

Ces i hwn fel anrheg Nadolig ac yn un o anrhegion gorau ces i. Mae pob rysait dwi wedi trio hyd yn hyn wedi bod yn flasus iawn – diolch mumsnetters!

 

Baby-led Weaning Cookbook
Gill Rapley & Tracey Murkett
ISBN-13: 978-0091935283

https://www.waterstones.com/book/the-baby-led-weaning-cookbook/gill-rapley/tracey-murkett/9780091935283

Does gen i ddim y llyfr hwn ond yn meddwl am ei brynu er mwyn cael mwy o syniadau ar gyfer amser cinio.

Rysáit: Guacamole

IMG_0407Cynhwysion

  • 1 afocado mawr
  • Hanner wnionyn
  • Hanner chilli
  • Hanner llwy de cumin
  • 1 leim

 

Offer arbennig

  • Cymysgwr bach

 

Dull

  1. Tynnwch yr afocado mas o’i groen a’i stwnshio mewn bowlen.
  2. Blendiwch y wnionyn, chilli, cumin a sudd hanner leim yn y cymysgwr nes bod yn creu pâst.
  3. Cymysgwch y pâst mewn gyda’r afocado.
  4. Gwasgwch weddill y sudd leim dros y guacamole er mwyn cadw fe’n ffres.

 

Hyfryd gyda chilli, fajitas neu fel dip.

Rysáit: Pesto

IMG_0148Cynhwysion

  • 45g-50g dail basil (wedi golchi)
  • 2 ewin garlleg bach (neu 1 mawr)
  • 25g cnau pinwydd (wedi tostio a malu)
  • 10g parmesan (wedi gratio)
  • 3 llwy de olew olewydd
  • sudd ¼ lemwn

 

Offer arbennig

  • Pestl a mortar

 

Dull

  1. Torrwch y dail basil a’u rhoi yn y mortar. Bwrwch gyda’r pestl.
  2. Ychwanegwch y garlleg a pharhau i’w falu nes bod e wedi cymysgu’n dda.
  3. Ychwanegwch y cnau pinwydd, parmesan a’r olew olewydd a’u malu eto nes bod popeth wedi cymysgu.
  4. I orffen, ychwanegwch y sudd lemwn a chymysgwch gyda’r pestl.

Yn gwneud tua 115g.

Mae’r rysáit hon yn cynnwys llawer llai o halen na pesto o’r siop. Yr unig halen yw’r hyn sydd yn y parmesan sef 1.6g/100g, felly dim ond 0.16g/100g o halen sydd yn y rysáit hon.

Rysáit: Saws Tomato Clasurol

IMG_0281

Cynhwysion

  • 1 wnionyn
  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 2 ewin garlleg
  • Pinsiad herbes de provence
  • 2 tun tomato
  • Tasgiad gwin coch
  • 1 llwy fwrdd finegr gwin coch

 

Offer arbennig

  • Cymysgwr stic

 

Dull

  1. Torrwch y wnionyn yn fan a’i ffrio yn yr olew olewydd. Ychwanegwch y perlysiau a’r garlleg wedi ei falu. Pan mae’n feddal, ychwanegwch y tomato a’r gwin.
  2. Gadewch i ffrwtian nes bod e wedi lleihau tipyn a thewychu.
  3. Cymerwch oddi wrth y gwres a’i gymysgwch gyda’r cymysgwr stic nes bod yn llyfn.
  4. Ychwanegwch y finegr a nawr mae’n barod i fwynhau.

 

Hyfryd gyda pasta neu fel saws ar pizza.

Cyn dechrau BLW

Pan wnes i BLW gyda fy mab hynaf, cadwais ddyddiadur bwyd am 6 mis. Pan des i i’r diwedd fy llyfr cyntaf treuliais bach o amser yn ymbwyllo dros ein profiadau am y 3 mis cyntaf. Dyma beth ddysgais i:

✓ Mae BLW yn llawer o hwyl

✗ Dyw prydau mewn hast byth yn llwyddiannus…

✗ Dyw prydau pan mae’r plentyn wedi blino byth yn llwyddiannus chwaith

✓ Dyw BLW ddim mor flêr nag oedd pobl wedi trio gwneud fi credu cyn dechrau…

✓ OND wrth roi ‘oil cloth’ ar y llawr ac ar y bwrdd, mae glanhau yn llawer haws

✓ Mae Y gadair uchel gan IKEA yn wych, yn uchder perffaith i’r plentyn bwyta wrth y bwrdd ac yn rhwydd iawn i lanhau

!!! Mae’n gallu bod yn anodd cael pryd y nos yn barod erbyn amser rhesymol

!!! Dwi wastad yn anghofio ystyried amser i’r bwyd i oeri

✓ Mae’n hawdd iawn i addasu ein prydau ni i fod yn addas i’r plentyn

✓ Dwi nawr yn llawer mwy gofalus a ffyslyd am beth rydym ni’n bwyta, yn arbennig gyda chig

!!! Ffedogau gyda llewys yn hollbwysig

✓ Mae’n hyfryd i gael yr amser ‘da gilydd o gwmpas y bwrdd – rydym ni’n clebran, cynllunio’r dydd, canu, gwrando ar y radio ayb

!!! Mae’n rhy hawdd i mi fwyta beth sydd ar ôl – mae’n rhaid i mi stopio gwneud hynny!!!

IMG_0285
Ein sefyllfa ni adref